Camau tuag at eich llesiant (2)

CAMAU TUAG AT EICH LLESIANT (2)

  1. COCH – PWRPAS MEWN BYWYD

Os oes gennych rywbeth i’w wneud, a’r gallu a’r adnoddau i’w wneud yna gall hynny ddod â boddhad a chysur i chi. Os ydych hefyd yn teimlo bod gennych gyfraniad i’w wneud i gymdeithas a pwrpas i’ch bywyd, yna mae hynny’n falm i gorff a’c enaid.

Mae llyfr Viktor Frankl ‘Man’s Search for Meaning’ yn sôn am brofiadau erchyll yr awdur yn Auschwitz fel carcharor rhyfel, ac yn tystio bod cael pwrpas yn ein bywydau yn gallu ein cynnal a rhoi rheswm i ni barhau. Drwy helpu’r carcharorion eraill, darganfu Frankl reswm a phwrpas i fyw.

Mae Dr. Mark Hyman yn ei lyfr ‘Young Forever’ yn dweud –

“Mae’r rhai sydd â mwy o ystyr eu bywydau’n byw’n hirach.”

  1. OREN – HAPUSRWYDD A CHYSYLLTIAD

‘Rydym yn fodau cymdeithasol. Nid yw unigrwydd yn dda i ni a gall effeithio arnom ar sawl lefel. Mae hyn yn gwneud synnwyr pan fyddwn ni’n ystyried ein cyn-deidiau – roedd yn beryglus bod ar eich pen eich hun, ac roedd angen eich llwyth o’ch cwmpas i’ch cadw’n ddiogel.

Ond gall fod yn anodd gwneud ffrindiau, yn enwedig wrth i ni fynd yn hŷn, felly mae bod yn aelod o grŵp, boed yn grŵp darllen, côr, grŵp cerdded, neu glwb chwaraeon, yn gallu bod yn fuddiol iawn.

Mae gwirfoddoli gyda phobl eraill yn ffordd dda iawn o ddod i adnabod pobol a gwneud ffrindiau tra’n gwneud rhywbeth er lles eraill.  Mae hyn wedi ei brofi i godi ein hysbryd.

Mae cerdded gyda ffrind yn y bore yn dda i ni am sawl rheswm. Fe gewch chi’r ymarfer corff, awyr iach, haul ar eich croen (sy’n cynhyrchu Fitamin D), haul yn eich llygaid (sy’n help i reoli ein cloc mewnol sy’n ein helpu i gael noson dda o gwsg), a chwmnȉaeth.

  1. MELYN – HAUL AC AMSER TU ALLAN

Mae mynd tu allan o fewn awr i godi fel bod golau dydd yn dod i mewn i’r lygaid yn ein helpu i gysgu, ac i gael rheoleiddiad naturiol yn y corff, gan fod y ffotoneiddiau golau’n rheoleiddio holl glociau’r corff. Fel y gwyr pawb erbyn hyn, mae cwsg yn hanfodol i iechyd meddwl da.

Mae haul ar ein croen yn creu Fitamin D yn ein cyrff sy’n bwysig i’n system imiwnedd, ac i’n hiechyd meddwl hefyd.

Gall yr haul helpu llawer o agweddau ar ein hiechyd. Dyma erthygl ddiddorol am fanteision golau’r haul o gylchgrawn Happiful. Mae ganddynt hefyd ap y gallwch ei lawrlwytho i gael mynediad at yr holl erthyglau.

Happiful Magazine

Ffordd braf o gael haul yw trwy ymarfer y tu allan.

How the sun can benefit your wellbeing (happiful.com)

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol o’r manteision corfforol niferus o ymarfer corff, ond efallai nad ydym mor ymwybodol o’r ffaith y gall helpu ein hiechyd meddwl hefyd. Mae dim ond 10 munud o gerdded yn gallu lleihau pryder drwy ryddhau dopamine a serotonin (hormonau teimlo’n dda naturiol sy’n bresennol yn y corff, ond sydd hefyd i’w gweld mewn meddyginiaethau gwrthiselder).

Manteision ymarfer corff – y GIG (www.gig.cymru)

Ymarfer corff ar gyfer iselder – y GIG (www.gig.cymru)

Un o’r ymarferion gorau i sicrhau ein bod yn dal i allu codi o’r gadair neu’r gwely pan fyddwn ni’n hŷn yw codi pwysau (neu ‘strength training’), ond mae’n bwysig cael hyfforddiant.  Gofynnwch yn eich meddygfa neu’ch gampfa ffitrwydd leol am ddosbarthiadau.

Benefits of Strength Training, Backed by Science (healthline.com)

   4.GWYRDD – DEIET

‘Rydym i gyd yn ymwybodol o’r angen i fwyta bwydydd ffresh, cyflawn a naturiol gan leihau bwydydd sy’ wedi eu prosesu, ac mae pwyslais y dyddiau hyn ar iechyd y coluddyn a’i bwysigrwydd ar gyfer holl agweddau iechyd.

Mae’r Athro Tim Spector yn arbenigwr ar iechyd y coluddyn, ac mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau e.e. ‘Spoon Fed’, a’r mwyaf diweddar ‘Food for Life: The New Science of Eating Well’.  Mae’n ein hannog i fwyta 30 o wahanol blanhigion mewn wythnos i gadw bȉom y coluddyn yn iach. Mae’r rhain yn cynnwys cnau, hadau, sbeisys, coffi, olew olewydd, siocled tywyll, yn ogystal â ffrwythau a llysiau.

Mae iechyd y coluddyn yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n patrymau cysgu yn ogystal â llawer o bethau eraill.

Dyma erthygl ddiddorol o Psychology Today

Gut Bacteria Can Influence Your Mood, Thoughts, and Brain | Psychology Today

    4.GLAS – DŴR

Gall peidio âg yfed digon o ddŵr achosi llawer o symptomau corfforol, ond gall hefyd effeithio ar ein hiechyd meddwl ac achosi hwyliau isel a phryder.

Mae’r dyfyniad canlynol o ‘Water, drinks and hydration’ – NHS (www.nhs.uk) –

“The Eatwell Guide recommends that people should aim to drink 6 to 8 cups or glasses of fluid a day. Water, lower-fat milk and sugar-free drinks, including tea and coffee, all count.”

Ond, mae’n rhaid i mi ail ddweud – plis mynnwch air hefo’ch meddyg cyn newid unrhyw agwedd o’ch deiet, yn enwedig os oes gennych gyflwr megis problemau gyda’ch arennau fel na ellwch yfed yn ormodol.

Mae llawer o lyfrau da am y pwnc hwn, ond dyma un o’m hoff lyfrau – ‘Your Body’s Many Cries for Water’ gan Dr. F. Batmanghelidj.

Ac mae nifer o erthyglau ar-lein hefyd – dyma un gan Healthline –

Dehydration and Anxiety: Understanding the Connection (healthline.com)

Ar drywydd arall – Mae nofio mewn dwr oer wedi’i brofi’n fuddiol i hwyliau isel a phryder i lawer o bobl, yn ogystal â lliniaru cymalau poenus. Fodd bynnag, ymddengys bod dau neu dri munud mewn cawod oer bob bore yn gallu cael effeithiau tebyg a darparu rhai o’r buddion trwy roi straen micro i’r corff. Fodd bynnag, rhaid bod yn ofalus i arfer yn raddol â thymheredd y dŵr dros ychydig wythnosau.

    6.INDIGO – CWSG

Rwyf wedi dioddef o gyfnodau o fethu cysgu yn aml ac yn gwybod yn iawn sut effaith mae hyn yn ei gael ar fy hwyliau, fy ngallu i ganolbwyntio, fy egni, a fy iechyd yn gyffredinol. Felly, dyma rai o’r awgrymiadau yr wyf i wedi’u darganfod sydd wedi helpu fi –

  • Torri i lawr ar caffîn – dim llawer o de, coffi, na cocoa i mi.
  • Bath Epsom Salts cyn mynd i’r gwely. Mae’r croen yn amsugno’r magnesiwm a all ein helpu i gysgu.
  • Yfed dŵr – i gynhyrchu’r hormon Vasopressin sy’n help i gysgu.
  • Diet sy’n uchel mewn ffeibr.
  • Peidio â bwyta’n hwyrach na 7.00pm
  • Myfyrio neu weddio i dawelu’r meddwl.
  • Dim alcohol
  • Massage
  • Mae ‘Grounding sheet’ ar y gwely i fod i helpu hefyd

*Yn amlwg, cyn newid unrhyw beth yn eich diet, dylech wirio gyda’ch Meddyg Teulu.

Dyma erthygl ddiddorol sy’n trafod pam mae cysgu mor bwysig ar gyfer iechyd meddwl

Mental Health and Sleep | Sleep Foundation

   7.FIOLED – BYWYD YSBRYDOL

Mae cael ffydd neu gred yn rhywbeth o’r tu allan i ni ein hunain yn gallu cynnig cysur a heddwch meddwl i ni.  P’run a’i drwy grefydd uniongred, neu drwy gredu mewn rhyw oruwch rym, mae hyn yn ein galluogi i dderbyn bywyd a’i heriau.

Os nad oes gennym dawelwch meddwl, yna gall y penderfyniad i gael cwnsela neu therapi fod yn gam yn y cyfeiriad cywir i geisio amlygu a deall  yr hyn sy’n ein poeni neu’n peri gofid i ni.

Gall cwnsela newid bywydau. Mae siarad hefo rhywun sydd wedi cael hyfforddiant i helpu rhywun i drafod eu materion wedi’i brofi i fod yn fuddiol. Mae rhannu ein trafferthion a chael ein derbyn yn rymus iawn, a all arwain i newid cadarnhaol.

Mae cwnsela dyngarol yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ein bod yn credu mai’r cleient sy’n gwybod orau sut maent yn teimlo, a beth sydd ei angen i wella eu hunain. Y cleient yw’r arbenigwr ar ei hunan.

Bydd cwnselydd hyfforddedig yn gwrando ac yn cefnogi’r cleient heb farnu, ac yn eu helpu i archwilio eu teimladau a’u meddyliau, ac yn gadael amser iddynt brosesu’r teimladau hynny.

Anogir y cleient i benderfynu drostynt eu hun y newidiadau y byddent yn hoffi eu gwneud. Mae hyn yn arwain at well hunan-barch a hunan-hyder, a fydd yn arwain at well berthynas gyda phobl eraill yn ogystal â gyda hwy eu hunain, gan greu bywyd mwy heddychlon a phwrpasol.

**********************************