Datganiad Proffesiynol

DATGANIAD PROFFESIYNOL

Mae gennyf Ddiploma Addysg Uwch fel Cwnselydd Dyngarol a Seicotherapydd  o Brifysgol Wrecsam (cynt yn Brifysgol Glyndŵr) ac rwy’n gwnselydd/seicotherapydd achrededig gyda’r NCPS (National Counselling and Psychotherapy Society) ac rwy’n dilyn eu Canllawiau Moesegol a Phroffesiynol. Mae gennyf hefyd ddiploma lefel 3 mewn EFT (Tapio).

Os nad wyf yn teimlo fod fy hyfforddiant a’m profiad yn gymwys ȃ’ch gofynion chi, yna byddaf yn gwneud fy ngorau i’ch cyfeirio at gwnselydd addas.

Mae fy ymrwymiad i ymarfer moesegol, cyfrinachedd, a datblygiad proffesiynol parhaus yn sicrhau eich bod yn derbyn gofal a gwasanaeth o’r ansawdd uchaf.