AUSTRALIAN BUSH FLOWER REMEDIES
Pa un o’r cardiau Flower Insight Cards fyddai eich isymwybod chi yn ei ddewis tybed?
Yn rhyfeddol, allan o’r 72 cerdyn, mae pobl yn dewis y rhai priodol ar gyfer eu problemau hwy, ac o ganlyniad, gellir cynnig trwyth ar eu cyfer.
“Gobeithio y bydd fy lluniau yn eich helpu i ddeall yn ddyfnach y cliwiau y mae natur wedi’u rhoi i nodweddion iacháu pob blodyn trwy ei siâp a’i liw – yr hyn a elwir gan feddygon hynafol yn Ddysgeidiaeth y Nodweddion.” Ian White, ABFE.

Dyma rai o’r blodau a’u priodoleddau iacháu –
(Dyfyniadau a lluniau gan Ian White, Australian Bush Flower Essences.)

BOAB (Adansonia gibbosa). Mae rhinweddau iachau’r rhin hwn yn cynnwys: ysgogi twf personol cadarnhaol a hefyd rhyddhau ymddygiad teuluol negyddol a phatrymau meddwl sy’n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth; yn gwella effeithiau cam-drin a rhagfarn.
Image and text by ausflowers.com.au

Red Suva Frangipani (Plumeria rubra). Mae rhinweddau iachusol y rhin hwn yn cynnwys: teimlo’n dawel ac wedi’ch meithrin; a chanfod tawelwch meddwl a chryfder i ymdopi ag anawsterau perthnasoedd.
Image and text by ausflowers.com.au

Alpine Mint Bush (Prostanthera cuneata). Mae cymwyseddau iachusol y rhin hwn yn cynnwys: adfywiad, llawenydd ac adnewyddiad. Mae’n hynod ddefnyddiol i’r rhai sy’n gofalu neu’n gyfrifol dros eraill, ac mewn perygl o ddiffygio’n lȃn.

Five Corners (Styphelia trifloral): Y rhinweddau iachau yw: ar gyfer cynyddu hunan-gariad a bywiogrwydd person a chynyddu hunanhyder. I’r rhai sydd ȃ hunan-barch isel, yn enwedig yn gorfforol. Ar gyfer pobl sy’n cael trafferth gyda phersonoliaeth mathredig, wedi’i ‘gadw i mewn’.