TECHNEG BOWEN
Mae sesiwn Bowen yn debygol o fod yn wahanol i unrhyw therapï i chi ei phrofi o’r blaen. Mae’r therapydd yn gwneud symudiadau cynnil ar y gewynnau a’r cymalau trwy ddillad y cleient ac mae hynny yn ‘ailosod’ y corff ac yn ceisio adfer cydbwysedd. Gall hyn helpu i fynd i’r afael â thensiwn corfforol, lleihau poen, ac ehangu gallu naturiol y corff i iachau ei hun.
Mae’n therapï hynod ddymunol ac effeithiol, a bydd rhai pobl yn cysgu yn ystod y sesiwn. Fel arfer, mae seibiant o ddau neu dri munud rhwng y symudiadau, i ganiatáu i’r corff brosesu’r newid.
Defnyddir Techneg Bowen at boen yn benodol, ond hefyd mae’n gallu bod o gymorth i nifer helaeth o gyflyrau eraill hefyd. Yn ddiddorol, mae rhai cleientiaid wedi cael rhyddhad, nid yn unig o afiechydon corfforol, ond wedi cael mewnwelediadau i faterion emosiynol sy’n eu poeni. Mae rhai yn dadlau fod therapi Bowen yn rhyddhau atgof o’r celloedd.
Dyma i chi ddau lyfr diddorol os oes gennych ddiddordeb yn y maes yma –
‘The Body Keeps the Score’ gan Bessel van der Kolk
‘When the Body Says No – the cost of hidden stress’ gan Gabor Maté.
Dwi’n therapydd Bowen cymwysedig ac felly os oes gennych awydd rhoi cynnig ar Bowen yna cysylltwch ȃ mi.
Dyma linc i wefan Therapi Bowen –
Efallai y bydd gennych ddiddordeb darllen am gleient a dderbyniodd sesiynau Bowen i’w chynorthwyo gydag afiechyd ‘roedd ganddi ar y pryd. Mae’r astudiaeth hon wedi ei chyhoeddi ar wefan Therapi Bowen, ac mae’r linc islaw: