F’ATHRONIAETH A’M FFORDD O WEITHIO
Dwi’n gweithio ar sail y gred fod gan bob unigolyn y potensial i newid, a byddaf yn ceisio eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd i ymdopi, eich helpu i ddeall eich hun yn well, a dysgu rheoli emosiynau anodd.
Mae Cwnsela Dyngarol yn sylfaen i fy null therapiwtig, ac mae’n canolbwyntio ar y gred sylfaenol fod y gallu ym mhob unigolyn i ffynnu, i wella, ac i fod yn fwy hunan-ymwybodol. Trwy empathi, agwedd ddidwyll, a gonestrwydd, ymdrechaf i greu perthynas gref lle gallwch deimlo’n ddiogel i archwilio eich teimladau, eich meddyliau, a’ch emosiynau’n agored, heb ofni cael eich barnu. Mae fy ffocws ar ddeall a gwerthfawrogi eich profiadau, eich teimladau, a’ch safbwyntiau unigol fel y gallwch deimlo eich bod wedi cael eich clywed a’ch deall yn iawn.
Mae taith pawb yn unigryw, felly, mae eich sesiynau wedi’u teilwra i’ch anghenion personol chi, p’run ac ydych yn ceisio lliniaru teimladau o iselder, trawma o’r gorffennol, neu awydd i wella hunan-ymwybyddiaeth.
Os yn briodol, gallaf gynnig ychwanegu at y sesiwn gwnsela drwy gyflwyno dulliau eraill, er enghraifft – Emotional Freedom Techniques (EFT, neu ‘Tapio’) i’r gwaith. Mae EFT yn ategu cwnsela gan ei fod yn eich galluogi i ymdrin yn ddiogel â theimladau sydd heb eu prosesu, trawmâu, a meddyliau negyddol a chaeth.

I mi, mae’r symbol o enfys, nid yn unig yn symbol o obaith, ond gyda’i saith lliw, yn adlewyrchu y gwahanol agweddau sydd yn cynrychioli ein bywydau ni, ac mae’r lliwiau hyn yn cynrychioli fy athroniaeth i tuag at wella a ffyniant. I wybod mwy am hyn ewch i’r dudalen Blog.