AMDANAF FI (2)

Am flynyddoedd mwynheais yrfa fel Therapydd Cyfannol, yn bennaf yn defnyddio Techneg Bowen, Technegau Rhyddid Emosiynol (Tapping), Reiki, ac hefyd trwythau blodau megis rhai Dr. Bach.
‘Roedd fy niddordeb mor frwd yn y maes yma fel y bu i mi ddysgu a chymhwyso mewn llawer o wahanol bynciau megis Maeth Naturiol, Hypnotherapi, Adweitheg a llawer mwy.
Yn ystod y cyfnod hwn, sylweddolais yr effaith mae straen emosiynol a meddyliol yn ei gael ar lesiant yr unigolyn, a sut y gallai datrys problem emosiynol neu feddyliol liniaru symptom corfforol. Yn aml byddai lliniaru agwedd o drallod (boed drwy gwnsela, neu drwy’r corff gan ddefnyddio Techneg Bowen, neu EFT) yn helpu’r agwedd gorfforol hefyd.
“Pan fydd y tensiwn corfforol yn cael ei ryddhau, gall y teimladau gael eu rhyddhau” (‘The Body Keeps the Score’ gan Bessel van der Kolk).