YMWADIAD
Mae pob unigolyn yn ymateb yn wahanol, felly rwyf yn teilwra’ch therapi i gydweddu orau â’ch anghenion personol a’ch gofynion chi, a hefyd gyda’ch personoliaeth. Nid oes unrhyw warantau y bydd unrhyw un o’r dulliau hyn o weithredu yn datrys eich problemau. Fy nod yw eich helpu chi i helpu eich hun, drwy hwyluso ymwybyddiaeth ddyfnaf o’r hyn sy’n eich gofidio a’ch galluogi i wneud y newidiadau priodol.
TYSTEBAU
Mae’r tystebau canlynol gan gleientiaid blaenorol. Fodd bynnag, eu barn hwy ydynt, ac nid yw’n warant y bydd eich canlyniad chi yr un fath.
“Roeddwn i’n teimlo fod Enys yn fy neall yn iawn, ac roedd bob amser yn dal gwir ystyr fy nheimladau. Roeddwn i’n teimlo fy mod gyda rhywun sy’n wir ofalu amdanaf ac roeddwn yn teimlo yn ddiogel.”
L.Eg, Prestatyn. (Awst 2023)
“Gwelais i Enys dros gyfnod o wyth sesiwn ac fe newidiodd fy mywyd mewn gwirionedd. Cefais ddeiagnosis o OCD 10 mlynedd yn ôl, ac yn wreiddiol cefais sesiynau CBT gan therapydd arall, felly roeddwn i’n amheus am ddechrau EFT. Roedd Enys mor dawel, caredig, ac onest pan wnaeth hi alwad ffôn cychwynnol fel fy mod yn teimlo yn hyderus yn trefnu apwyntiad gyda hi.
Ar ddechrau fy sesiynau, roedd gennyf lawer o bryder ac roeddwn yn rheolaidd yn cael teimladau o orfodaeth direol. Ond erbyn diwedd yr wyth sesiwn nid oeddwn yn cael unrhyw orfodaeth o gwbl. Yna aethwn ymlaen i gael therapi Bowen a roddodd fwy o egni i mi a mwy o ffocws. Ar ôl cael therapi gyda Enys, rwy’n teimlo mod i wedi cael bywyd newydd. Byddwn yn ei argymell hi i unrhyw un.”
H.E., Treffynnon. (Hydref 2023)
Ar ôl cyfnod anodd i mi, mae fy sesiynau gyda Enys wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac mae hi wastad yn barod i wrando ac yn hawdd iawn i siarad â hi, heb fod yn farnol byth, ac bob amser yn gefnogol. Mae’r sesiynau therapi wedi llwyddo i dynnu’r pwysau oddi ar eraill ac wedi fy ngalluogi i ganolbwyntio ar fy hun, ac yn lle hyn gallu symud ymlaen gyda chysur. Roedd gallu siarad Cymraeg i mi’n hanfodol ac yn bwysig, ac rwyf wir yn ddiolchgar.
C.D., Y Bala. (Tachwedd 2023)
Mae Enys yn therapydd sy’n gwrando ac yn cynnig gofod i siarad yn agored ac yn onest yn y sesiynau. Roeddwn i’n teimlo’n ddiogel yn siarad am fy ngorffennol ac am sut y bu digwyddiadau plentyndod yn achosi poen ac ofn i mi fel oedolyn. Mae Enys wedi fy helpu i wynebu’r anawsterau hyn gan ddefnyddio ‘Tapping’ (EFT). Mae’r dull hwn wedi ysgafnhau’r atgofion negyddol o fy mhlentyndod ac yn fy ngalluogi i fyw fy mywyd heb adael i drawma’r gorffennol ddiffinio ac effeithio ar fy nawr. Rwy’n teimlo’n fwy ysgafn ar ôl pob sesiwn gyda Enys. Mae hefyd wedi bod yn dda gallu lleisio fy ngeiriau yn fy mamiaith, ac roedd hyn yn golygu fy mod yn siarad o’r galon, ac mae hyn wedi creu dealltwriaeth unigryw rhwng y ddwy ohonom. Rwy’n ddiolchgar iawn am y therapi a gefais hyd yn hyn.
Di-enw, Caerdydd. (Rhagfyr 2023)
Cyn dechrau fy sesiynau cwnsela gyda Enys, roeddwn yn teimlo yn ansicr ac yn anhapus yn fy hun fel person yn dilyn siwrne o ddwy flynedd o anawsterau ffrwythlondeb. Roedd cael siarad yn fy iaith fy hun (Cymraeg), ac yn gynhesrwydd ei chartref wedi fy ysgogi i deimlo mwyaf cyfforddus i siarad am fy nheimladau, ac amgylchiadau eraill oedd yn cael cryn dipyn effaith ar fy hunan werth a hunan barch. Yn dilyn ambell sesiwn gyda Enys, dechreuais deimlo’r nerth i deimlo bodlondeb a derbyn fy hun a fy ngwerth, rhywbeth i mi weld yn anodd iawn i’w dderbyn ers sawl blwyddyn. Mae gennyf gymaint i ddiolch i Enys am roi’r amser, yr empathi a’i harweiniad i mi deimlo’r sefydlogrwydd dwi yn ei deimlo heddiw, diolch i chi.”
E.E., Rhuthun. (Mehefin 2024).
“… mae’r sesiynau wedi bod o gymorth i mi gyda’r problemau ‘roedd gennyf. Mae Enys yn hawdd iawn i siarad gyda ac roeddwn yn teimlo’n gyfforddus yn trafod fy mhroblemau yn agored ȃ hi…”
M.K., Llundain. (Gorffennaf 2024)
Mae Enys yn therapydd rhagorol. Mae’n dod â gonestrwydd, empathi, persbectif arbenigol, gwrando astud, sensitifrwydd, ac yn anhygoel o dda am gofio manylion i’r broses o rymuso ei chleientiaid i wella.
Rwyf wedi bod yn gweld Enys ers 4 mis bellach, ar ôl cysylltu gyntaf ar ôl tor-perthynas gydag unigolyn narsisitaidd. Mae’n ymddangos mod i’n ddilyn yr un patrymau dro ar ôl tro ac na allwn adnabod y problemau, sut i stopio ailadrodd fy hun, torri’r patrymau yma, a gwneud newidiadau er gwell. Drwy ein sesiynau rwyf wedi dysgu llawer amdanaf fy hun a sut mae trawma’r gorffennol wedi ac yn dal i effeithio arna i heddiw.
Rwyf wastad wedi bod yn rhywun sydd yn jyst cario ymlaen, ond wrth edrych yn fwy manwl, rwyf wedi dysgu bod yr holl brofiadau hyn wedi cael effaith barhaol arna i.
Er mod i’n nerfus ar y dechrau, roedd Enys i weld yn wirioneddol ddeall gwraidd y broblem, a lle oedd popeth yn deillio ohono, ac yn fy helpu i gymryd camau i dorri’n rhydd o’r arferion problemus yn fy mherthnasoedd.
Rŵan mae gen i’r hyder i wneud newidiadau, asesu sefyllfaoedd hefo meddwl agored, a cherdded i ffwrdd os nad yw pethau’n iawn, lle na fyddwn i byth wedi cael y nerth i wneud hynny cynt. Mae wedi bod, ac yn parhau i fod, yn daith o ddarganfod – un sy’n gallu bod yn heriol ar adegau. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth Enys mae hynny’n gwneud y daith yn un bosibl.
Mae gan Enys natur wych ac mae’n llwyddo i fod yn broffesiynol iawn tra ar yr un pryd yn sensitif iawn i’r hyn y gallai eich anghenion emosiynol fod ar y pryd. Mae Enys, a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu, wedi bod yn drawsnewidiol i mi wrth ddod i delerau â thrawma plentyndod a deall ei effaith ar fy mywyd presennol, a pheidio caniatáu iddo reoli fy nyfodol.
S.B., Yr Wyddgrug. (Awst 2024)