Australian Bush Flower Remedies

AUSTRALIAN BUSH FLOWER REMEDIES

Pa un o’r cardiau Flower Insight Cards fyddai eich isymwybod chi yn ei ddewis tybed?

Yn rhyfeddol, allan o’r 72 cerdyn, mae pobl yn dewis y rhai priodol ar gyfer eu problemau hwy, ac o ganlyniad, gellir cynnig trwyth ar eu cyfer.

Gobeithio y bydd fy lluniau yn eich helpu i ddeall yn ddyfnach y cliwiau y mae natur wedi’u rhoi i nodweddion iacháu pob blodyn trwy ei siâp a’i liw – yr hyn a elwir gan feddygon hynafol yn Ddysgeidiaeth y Nodweddion.” Ian White, ABFE.

Dyma rai o’r blodau a’u priodoleddau iacháu –

(Dyfyniadau a lluniau gan Ian White, Australian Bush Flower Essences.)

BOAB (Adansonia gibbosa). Mae rhinweddau iachau’r rhin hwn yn cynnwys: ysgogi twf personol cadarnhaol a hefyd rhyddhau ymddygiad teuluol negyddol a phatrymau meddwl sy’n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth;  yn gwella effeithiau cam-drin a rhagfarn.

Image and text by ausflowers.com.au

Red Suva Frangipani (Plumeria rubra). Mae rhinweddau iachusol y rhin hwn yn cynnwys: teimlo’n dawel ac wedi’ch meithrin; a chanfod tawelwch meddwl a chryfder i ymdopi ag anawsterau perthnasoedd.

Image and text by ausflowers.com.au

Alpine Mint Bush (Prostanthera cuneata).  Mae cymwyseddau iachusol y rhin hwn yn cynnwys: adfywiad, llawenydd ac adnewyddiad.  Mae’n hynod ddefnyddiol i’r rhai sy’n gofalu neu’n gyfrifol dros eraill, ac mewn perygl o ddiffygio’n lȃn.

Five Corners (Styphelia trifloral):  Y rhinweddau iachau yw: ar gyfer cynyddu hunan-gariad a bywiogrwydd person a chynyddu hunanhyder.  I’r rhai sydd ȃ hunan-barch isel, yn enwedig yn gorfforol.  Ar gyfer pobl sy’n cael trafferth gyda phersonoliaeth mathredig, wedi’i ‘gadw i mewn’.