Amdanaf fi

AMDANAF FI

 

Enys ydw i ac mae gennyf Ddiploma Addysg Uwch mewn Cwnsela Dyngarol a Seicotherapi o Brifysgol Wrecsam (gynt yn Brifysgol Glyndŵr) ac mae fy niddordeb mewn iechyd a llesiant yn fy ngalluogi i gynnig dull cynhwysfawr a chyfannol tuag at gwnsela.  Byddaf yn ceisio ystyried holl agweddau bywyd fy nghlientiaid, boed yn gorfforol, emosiynol, meddyliol, neu ysbrydol. Prun a’i eich bod eisiau rhyddhad rhag pryder neu dristwch, neu ddyhead am dŵf personol, rwy’n ymrwymedig i deilwra pob sesiwn i gwrdd â’ch anghenion a’ch nodau unigryw.

Mae hunan-ddatblygiad, hunan-ymwybyddiaeth, a llesiant o ddiddordeb arbennig i mi a’m nod yw i annog y cleient i ofalu’n well am ei hunain.  Dros gyfnod o 20 mlynedd, rwyf wedi astudio a chymhwyso mewn llawer o therapïau cyfannol, a phob un yn cyfrannu at fy agwedd holistig tuag at iechyd a llesiant.

Am flynyddoedd lawer mwynheais yrfa fel Therapydd Cyfannol gan ymarfer gwahanol ddullliau.  Os hoffech wybod mwy am fy nghefndir yn y maes yma, yna cliciwch y linc i’r Blog.

Mae fy swyddfa wedi’i lleoli yng Nghaerwys, Sir y Fflint, ond gallaf hefyd gynnig sesiynau dros y ffôn neu ar Zoom, neu gynnig sesiwn Siarad a Cherdded.