CROESO

Gall bywyd fod yn llethol ac yn anodd ar wahanol adegau yn ein bywyd, ac fe allwn ni i gyd ei chael hi’n anodd i ymdopi. Tydi cymryd y cam cyntaf i ofyn am gymorth ddim yn hawdd, yn enwedig os nad oes gennych brofiad blaenorol o gwnsela. Felly, rwy’n croesawu chi’n gynnes i’m gwefan ac yn diolch i chi am edrych. Mae taith pob unigolyn yn unigryw, ac rwy’n parchu hyn drwy ddarparu amgylchedd diogel, cefnogol, a heb feirniadaeth, i chi gael amser i weithio drwy eich teimladau a’ch profiadau. Rwy’n empathig a byddaf yn ymdrechu i ddeall eich problemau, eich pryderon, a’ch nod mewn bywyd.